Mae 12 sedd ar gyfansoddiad y Cyngor gyda pedwar aelod yn cynrychioli pob Ward sef Llanwnda, Rhosgadfan a Rhostryfan.

Bydd yr aelodau hefyd yn cynrychioli Is- Bwyllgorau’r Cyngor yn ogystal a chyrff allanol.

Ward Llanwnda

Ward Rhosgadfan

Ward Rhostryfan

Is Bwyllgorau’r Cyngor

Pwyllgor Cyllid

  • Jason Hunt
  • Michelle Williams
  • Arwyn Herald Roberts
  • Aeron Maldwyn Jones

Pwyllgor y Fynwent

  • Gwilym Williams
  • Nerys Evans
  • Arwyn Herald Roberts
  • Michelle Williams
  • Gwilym Thomas

Pwyllgor Goleuadau a Llwybrau

  • Michelle Williams
  • Nia Gruffydd
  • Arwyn Herald Roberts
  • Tom Ellis

Pwyllgorau Allanol

Llywodraethwyr Ysgolion

  • Ysgol Rhosgadfan
    • Michelle Williams
  • Ysgol Rhostryfan
    • Nerys Evans
  • Ysgol Felinwnda
    • Tom Ellis

Pwyllgor Un Llais Cymru

  • Huw Rowlands

Pwyllgorau Eraill

  • Pwyllgor Pentref Rhostryfan
    • Jason Hunt
  • Parc Glynllifon
    • Arwyn Herald Roberts
  • Cyswllt Bro Lleu
    • Nerys Evans
  • Chwarel Moel Tryfan
    • Gwilym Thomas
    • Michelle Willimas
    • Aeron Jones
    • Arwyn Herald Roberts

Trefn Cynghorau Cymuned

Cyfrifoldebau’r Cyngor Cymyned

Cyngor Cymuned yw’r cyngor sy’n gyfrifol am gymunedau yn Nghymru. Mae’n ffurfio’r haen isaf o lywodraeth leol.

Mae Cymru wedi ei rannu yn blwyfi sifil i bwrpas llywodraeth leol a seilwyd yn fras ar y plwyfi eglwysig. Oddi tan Ddeddf Lywodraeth Leol 1972 fe ddiddymwyd y plwyfi sifil yng Nghymru (adran 20 (6), ac yn eu lle, rhannwyd y wlad yn 869 o gymunedau (adran 27 o’r Ddeddf).

Gall pob cymuned gael Cyngor Cymuned. Nid oes rhaid i gymuned fod a Chyngor Cymuned oherwydd fod poblogaeth rhai cymunedau yn rhy fach i gynnal Cyngor. Dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, gall cymuned ofyn i’r cyngor sir am gael ei grwpio gyda chymunedau eraill er mwyn dod dan un cyngor cymuned ar y cyd, cyn belled a bod y cymunedau i gyd yn yr un sir.

Gwaith y Cyngor Cymuned

Dywed Deddf Llywodraeth Leol 1972 fod pob rhan o Gymru mewn cymdeithas neu gymuned. Yn Lloegr “Cyngor Plwyf” yw’r ymadrodd o hyd ond yng Nghymru “Cyngor Cymuned” yw’r ymadrodd cyfriethiol a chyfansodiadol am yr unedau hyn o weinyddiad mewn llywodraeth leol.

Haen isaf llywodraeth leol yw’r Cyngor Cymuned ac sydd agosaf i’r cyhoedd o ran ymateb i ofynion lleol.

Mae gan y Cyngor nifer o hawliau a dyletswyddau statudol. Ymysg y rhain yw gofalu am gadw llwybrau cyhoeddus yn agored i’r cyhoedd.

Mae gan y Cyngor hawl i roi sylwadau ar geisiadau cynllunio, ynghyd a hawl i wario ar brosiectau fydd o fudd i’r gymuned, megis ar llochesi bysiau, goleuadau ochr ffordd a biniau ysbwriel.

Ceir hefyd cyfleoedd i arwain neu gymryd rhan mewn prosiectau sy’n lleol.

Beth yw strythur y Cyngor?

Ar dudalen yr Aelodau gweler rhestr o Gynghorwyr presennol y Cyngor sydd yn eich cynrychioli.

Mae 12 sedd ar gyfansoddiad y Cyngor, 4 yn cynrychioli Rhosgadfan, 4 yn cynrychioli Rhostryfan a 4 yn cynrychioli Dinas.

Cyflogir Clerc / Swyddog Ariannol gan y Cyngor i ddelio â’r holl drefnu cyfarfodydd a llunio agenda i ddelio gyda’r cofnodion a`r materion ariannol a gweinyddol o chario allan gwaith y Cyngor.

Sut mae’r Cyngor yn gweithio?

Bydd unrhyw waith gan y Cyngor yn digwydd ar ol penderfyniadau mewn cyfarfodydd agored.

Telir am unrhyw waith gydag arian cyhoeddus a ddaw i’r Cyngor drwy godi praesept sydd yn elfen o Dreth y Cyngor.

A chaiff y cyhoedd ddod i gyfarfodydd?

Mae croeso i aelodau’r cymuned ddod i’n cyfarfodydd fel gwrandawyr yn unig – a byddem yn annog hyn.

Nid oes hawl i’r cyhoedd fod yn rhan o drafodaethau’r Cyngor a ni roddir hawl iddynt leisio barn yn ystod y cyfarfod – fodd bynnag, gall amgylchiadau arbennig ganiatáu’r Cadeirydd i alw am gyfraniad oddi wrth y cyhoedd ac iddynt wneud datganiad.

Byddwn yn cyfarfod ar y trydydd nos Fercher yn fisol gyda eithriad i fis Awst a Rhagfyr am 7.y.h yng Nghanolfan Kate Roberts

Cyfrfod Blynyddol

Mae croeso i aelodau’r cymuned ddod i’n cyfarfodydd fel gwrandawyr yn unig – a byddem yn annog hyn.

Nid oes hawl i’r cyhoedd fod yn rhan o drafodaethau’r Cyngor a ni roddir hawl iddynt leisio barn yn ystod y cyfarfod – fodd bynnag, gall amgylchiadau arbennig ganiatáu’r Cadeirydd i alw am gyfraniad oddi wrth y cyhoedd ac iddynt wneud datganiad.

Byddwn yn cyfarfod ar y trydydd nos Fercher yn fisol gyda eithriad i fis Awst a Rhagfyr am 7.y.h yng Nghanolfan Kate Roberts

Ethol Aelodau

I fod yn gymwys i swydd Cynghorydd, rhaid i berson fod heb eu anghymwyso dan y gyfraith, yn ddeiliad Prydeinig, ac wedi cyrraedd 21 oed.

Rhaid i’r ymgeisydd hefyd fod yn:

Etholwr llywodraeth leol
fod drwy gydol deuddeg mis cyn y dyddiad ethol yn meddiannu fel tenant neu berchen ar ryw dir neu adeiladau yn y cylch neu’n ddinesydd hyn
fod a’i brif, neu unig le gweithio, yn y deuddeg mis cyn ethol, yn y cylch
fod yn byw drwy gydol y deuddeg mis hwnnw yn y cylch , neu o fewn tair milltir i’r cylch