Mae gan y Cyngor Cymuned gyfrifoldeb am rwydwaith o lwybrau cyhoeddus o lethrau Moel Tryfan i’r Foryd.
Rheolau i’w Dilyn
Rheolau syml i’w dilyn wrth dramwyo llwybrau
- Gwisgwch esgidiau cryf neu esgidiau cerdded a dillad addas bob amser.
- Os ydych yn cerdded ar eich ben eich hun gadewch i rywun wybod lle rydych yn mynd ac yn fras pryd y byddwch yn dychwelyd.
- Gwyliwch y tywydd cyn cychwyn ar deithiau cerdded mynyddig.
- Ewch â bwyd a diod gyda chi bob amser os ydych yn mynd ar daith gerdded hir.
- Os ydych yn cerdded ar lwybrau mynyddig, sicrhewch fod gennych gwmpawd, chwiban, pecyn goroesi, pryd bwyd, torsh a ffôn symudol.
- Dilynwch y Côd Cefn gwlad bob amser
- Sicrhewch fod camfeydd a giatiau yn cael eu gadael fel ac yr oeddynt.
- Parchwch y llwybrau ac eiddo eraill
- Cadwch gŵn ar dennyn
Gall cerddwyr ddefnyddio llwybrau cyhoeddus – ac mae hyn yn cynnwys pobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn a rhai sy’n gwthio pram neu goets. Fel gyda phob hawl tramwyo cyhoeddus mae gennych hefyd hawl i fynd â’ch ci, er bydd angen i chi ei gadw ar dennyn neu fel arall o dan reolaeth agos ar lwybrau ble mae da byw. Dylech ddisgwyl dod ar draws camfeydd ar lwybrau troed. Efallai na fydd unrhyw fodd arall arbennig i gŵn groesi wrth gamfeydd.
Nid oes hawl i ddefnyddio beic ar hyd llwybr troed cyhoeddus., er gall berchnogion tir unigol ganiatáu beicio ar hyd rhai llwybrau sydd yn llwybrau troed cyhoeddus. Nid oes hawl i farchogaeth ceffyl na gyrru cerbyd modur heb ganiatâd penodol perchennog y tir.
Dylech fod yn ofalus a gallu gwahaniaethu rhwng ‘llwybrau troed cyhoeddus’ a ‘throedffyrdd’. Nid yw llwybrau ger ffyrdd cyhoeddus yn llwybrau troed cyhoeddus – byddai’n well cyfeirio atynt fel troedffyrdd neu yn syml pafinau. Nid yw’r troedffyrdd wedi eu dangos ar y map swyddogol o hawliau tramwy cyhoeddus. Mae troedffordd mewn gwirionedd yn rhan o’r briffordd sydd wedi ei gosod ar wahân i gerddwyr. Dylech gysylltu â’r swyddfa briffyrdd leol briodol i gael cyngor am droedffyrdd.
Gallwch gymryd taith amgen fer o amgylch rhwystr anghyfreithlon, neu dynnu digon ohono er mwyn myndheibio iddo (ond nid yw hyn yn ymestyn i’r hawl i gsrio e.e. pleiars i dorri weiren bigog).
Categoriau Llwybrau
Categori 1
Llwybrau sydd yn hwyluso symudiadau pobl. Bydd i’r rhain ddefnydd sylweddol neu byddent yn ffurfio cysylltiadau â threfi, pentrefi neu rhwng cyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus, meysydd parcio ac atyniadau.
Categori 2
Llwybrau poblogaidd a ddefnyddir yn bennaf er pleser gan gynnwys llwybrau o amgylch cymunedau, llwybrau cerdded cylchol neu fynediad i draethau.
Categori 3
Llwybrau, er na chant eu defnyddio mor aml, sydd yn ffurfio cysylltiadau arwyddocaol rhwng y llwybrau yng nghategoriau 1 a 2 neu rhwng cymunedau.
Categori 4
Llwybrau, a dim ond defnydd achlysurol , ond sydd yn parhau i ffurfio rhan o’r rhwydwaith lawn, effeithiol. Gall y rhain gynnwys cysylltiadau posib rhwng cymunedau ble nad oes llawer i annog cerdded.
Categori 5
Llwybrau heb unrhyw fudd na photensial amlwg, a phle mae yna lwybrau mewn categori uwch yn arwain i’r un man.
Cyfrifoldeb
Defnyddir y llwybrau cyhoeddus gan ymwelwyr o bell a chan trigolion lleol. Mae ein llwybrau wedi eu creu ers blynyddoedd maith ac mae trigolion y gymuned wedi tramwyo arnynt ar hyd y blynyddoedd. Bellach mae mwyafrif llwybrau’r gymuned wedi eu cofrestru ar y map terfynol (definitive map). Mae copiau o’r mapiau terfynnol i’w gweld yn Swyddfeydd y Cyngor ac mae’n bosib prynu copiau. I’r dyfodol, byddwn yn dangos mapiau terfynnol Cymuned Llandwrog ar y wefan hon. Mae’n hanfodol bwysig fod ein llwybrau yn cael eu hamddiffyn. Os y gwelwch fod llwybr wedi ei gau, fod gordyfiant, fod camfeydd neu adwyon wedi eu rhwystro rhowch wybod i’r Cyngor Cymuned.
Mae gan Gyngor Cymuned Llanwnda yr hawl i ymgymryd â dyletswyddau yr Awdurdod Priffyrdd (sef Cyngor Gwynedd) ar lwybrau cyhoeddus sydd o fewn ffiniau’r gymuned. Prif ddyletswydd y Cyngor Cymuned yw i ymgymryd â gwaith cynnal a chadw er mwyn cadw y llwybrau mewn cyflwr da ac ar agor i’r cyhoedd sef torri glaswellt, torri mieri a gordyfiant a gwaith draenio syml.
Cynnal a Chadw Llwybrau Cyhoeddus
Arwyddion
Cyngor Gwynedd – dyletswydd statudol ar yr Awdurdod Priffyrdd. Ymgymerir ar gwaith yma gan gontractwyr ar ran yr Adran Priffyrdd.
Arwyneb
Yn gyffredinol Cyngor Gwynedd (sef yr Awdurdod Priffyrdd) yn gymesur ar defnydd cyhoeddus. Ni fyddai’r Awdurdod Priffyrdd er engraifft yn derbyn cyfrifoldeb llawn am arwyneb llwybr troed ar hyd ffordd breifat.
Arwyddo ar hyd y Llwybrau
Cyngor Gwynedd (Awdurdod Priffyrdd) – trwy gytundeb perchennog y tir.
Giatiau a chamfeydd
Y Perchennog Tir – ond mae’n rhaid i Gyngor Gwynedd (Awdurdod Priffyrdd) dalu o leiaf 25% at gost cynnal a chadw’r cyfleusterau a ddarperir yn unig ar gyfer defnydd y cyhoedd. Yng Ngwynedd y lleiafswm cyfraniad yw bod y deunyddiau gofynnol yn cael eu darparu i’r perchennog y tir eu codi.
Pontydd
Cyngor Gwynedd (Awdurdod Priffyrdd) – yn gymesur a’r defnydd cyhoeddus (fel arwynebau) Bydd dyletswyddau sydd yn gysylltiedig â hyn fel arfer yn cael eu cario allan gan gontractwyr ar ran yr Awdurdod Priffyrdd.
Cloddiau
Y perchennog tir.
Ffensiau
Y perchennog tir, oni bai eu bod wedi codi gan yr awdurdod priffyrdd oherwydd rhesymau diogelwch.
Waliau
Y perchennog tir, oni bai eu bod wedi eu hadeiladu i gefnogi’r llwybr ac yn yr achos yr Awdurdod Priffyrdd fod yn gyfrifol
Draeniau
Yn dibynnu ar yr amgylchiadau – Y perchennog tir neu’r Awdurdod Priffyrdd
Cnydau (ac eithrio glaswellt)
Y perchennog tir – i sicrhau nad oes unrhyw rwystr ar y llwybr
Gwybodaeth bellach
Hanes Lein Bryngwyn
Bu agor Cangen Bryngwyn o’r North Wales Narrow Gauge Railway yn fendithiol i chwareli ardal Moeltryfan gludo’u cynnyrch i’r farchnad lechi.
Yn dilyn Deddf Llywodraeth yn 1872 ffurfiwyd y North Wales Narrow Gauge Railway Co., gyda’r bwriad o agor ffordd haearn. Roedd dwy ran i’r cynllun, yn gyntaf, ffordd 5½ milltir o Dinas, Llanwnda yn rhedeg i’r dwyrain wrth odre gogleddol llechweddi isaf Moeltryfan i Tryfan Junction ger Tyddyn Gwŷdd, yna yn ôl i’r de drwy ganol Rhostryfan i Bryngwyn ac i fyny i’r chwareli; yn ail, ffordd 7½ milltir o Tryfan Junction drwy’r Waunfawr a Betws Garmon, wrth ochr Llyn Cwellyn i Rhyd-ddu. Wedi oedi droeon cwblhawyd y gwaith ac agorwyd y lein o Dinas i Bryngwyn ar gost o £66,000 i drafnidiaeth nwyddau a theithwyr yn haf 1877.
Syr Llywelyn Turner oedd cadeirydd Bwrdd Rheoli’r cwmni, ac ymhlith y rheolwyr eraill roedd nifer â diddordeb yn agor y lein er budd eu chwareli yn y cylch, H.Beaver Roberts, John Menzies, Charles Pearson a Hugh Pugh.
Rhwng Dinas a’r Bryngwyn roedd dwy stesion, Tryfan Junction a Rhostryfan. Disgrifid Rhostryfan ar y pryd fel cymuned o fythynnod ar wasgar ar y llethr heb ganol amlwg. O stesion Rhostryfan âi’r trên drwy gwtin, dros yr afon ac o dan y ffordd drwy’r pentref ger Bron Meillion, cyn dod allan i dir agored ac ymlaen am Gae Haidd. Codwyd waliau cerrig o boptu’r lein. Rhaid oedd cael nifer o droadau er mwyn codi yn raddol ond her hynny roedd yr oledd tua 1:30 wrth fynd am fferm Bryngwyn ac yna troi i groesi’r ffordd i’r stesion. Rhedai’r injans Moel Tryfan, Snowdon Ranger, Beddgelert a Gowrie ar y lein.
Bu’r lein yn brysur am gyfnod, pan oedd mynd ar y chwareli, ac yn boblogaidd iawn gyda theithwyr o ardal Carmel a Rhostryfan, ond edwinodd y diwydiant llechi a bu’r Rhyfel Byd Cyntaf a Dirwasgiad y 1920au yn ergydion trwm. Daeth trafnidiaeth teithwyr o Bryngwyn i ben yn 1913. Yn 1922 unwyd y cwmni â’r Welsh Highland Railway ond lleihaodd y drafnidiaeth. Dechreuodd rhai chwareli anfon y llechi ar lorïau, âi teithwyr ar y bysus lleol, a’r canlyniad fu cau y lein yn derfynol yn 1937.
Erys olion adeiladau gorsafoedd Tryfan Junction, Rhostryfan a’r Bryngwyn, darnau o’r cledrau yma ac acw, rhai ar gamfeydd, eraill bellach yn Stesion Dinas. Mae’r ffensys crawia ym Mwlch y Llyn yn dangos yr hen lwybr.
Gobeithir agor llwybr o Tryfan Junction i Rhostryfan fel llwybr beicio a cherdded, ac mae’r rhan o Rhostryfan i Gae Haidd eisoes wedi’i gwblhau. Mae’n hawdd gweld olion i sliperi wrth gerdded y llwybr yma. Mae’r inclên ddwbl ar y tir comin uwchben Capel y Bryn. Gellir cerdded y llwybr o’r tu uchaf i’r drumhead tu cefn i Fron Heulog yr holl ffordd o gwmpas y mynydd at weddillion siediau chwarel Cors y Bryniau. Go brin fod llawer o ymwelwyr wedi teithio ar y trên, cario llechi ddaeth â’r incwm, yn wir cyfrannai Cangen Bryngwyn fwy’n ariannol na’r brif lein am Rhyd-Ddu oherwydd cynnyrch y chwareli.
Agoriad swyddogol Lwybr Lein Bryngwyn Mai 21ain, 2011
Ar fore Sadwrn, 21ain o Fai, daeth oddeutu 100 o bobl i neuadd Rhostryfan i weld arddangosfa oedd yn dangos y gwaith mae Cyngor Cymuned Llanwnda wedi’i wneud ar y llwybr, sy’n rhedeg o Rhostryfan lawr i Dyddyn Gwydd a Tryfan Junction. Rhoddodd Bethan Williams ac Elwyn Jones gyflwyniad byr i’r cynllun a diolchwyd i bawb am eu cyfraniad i’r prosiect.
Symudodd pawb i safle hen orsaf Rhostryfan, ac yno fe dorrwyd y rhuban coch gan Mr.Alun Ffred Jones, AC, a gyhoeddodd fod y llwybr yn agored. Cerddodd nifer fawr o drigolion y pentref ar hyd y llwybr. Arferai nifer fawr o’r rhain ddefnyddio’r llwybr hwn yn eu plentyndod, ac felly roedd y daith yma yn llawn atgofion melys iawn i nifer o’r rhai hyn yn ein plith!
Wrth i ni gyd wasgu mewn ar y platfform bach, cafwyd cyflwyniad gan David Allen, cynrychiolydd y “Welsh Highland Heritage Group”, ar y gwaith y bwriedir ei wneud ar yr adeilad. Maent yn gobeithio ei ail-adeiladu yn union fel ag yr oedd yn arfer bod ddechrau’r ganrif ddiwethaf.
Er y gallai’r tywydd fod yn well, ni chafwyd glaw nes cyrraedd Tyddyn Gwydd. Dyma’r tro cyntaf i’r dren bach gasglu teithwyr oddi yno ers oddeutu can mlynedd! Wrth i’r tren gyrraedd, aeth nifer helaeth ohonom arni, gan wasgu mewn rhwng pobl oedd yn teithio o Borthmadog, rhai ohonynt yn edrych yn synn arnom, gan feddwl o le gebyst mae’r holl bobl ‘ma di dod?!
Aethpwyd ymlaen i Dinas i fwynhau’r miri a’r Cwrw ar y Cledrau!
Mae llawer o waith eto i’w wneud ar safle’r orsaf yn Rhostryfan, gan gynnwys tirlunio, gosod byrddau picnic a chreu mannau parcio, a gobeithir yn wir y bydd defnydd helaeth yn cael ei wneud o’r safle a’r llwybr gan drigolion lleol a chan ymwelwyr fel y’i gilydd. Mae’r llwybr rhwng Rhostryfan a Thyddyn Gwydd eisoes yn cael ei ddefnyddio yn rheolaidd iawn, ac mae’r trigolion lleol wedi mynegi eu diolch am greu adnodd gwerthfawr i’r ardal.
Mae golygfeydd godidog i’w gweld o’r llwybr dros y Fenai a Chaernarfon, a gobeithir y bydd pobl sy’n teithio ar y tren bach yn gwneud defnydd o’r llwybr maes o law. Mae’r llwybr yn cysylltu Dyffryn Nantlle gyda’r rheilffordd, gan fod y llwybr yn mynd yr holl ffordd i fyny i Fryngwyn. Ar hyn o bryd, mae modd cerdded ar hyd yr hen lein ger Cae Haidd yr holl ffordd lawr trwy Rhostryfan i Dyddyn Gwydd. Mae un darn o’r lein, sydd ynghanol Rhostryfan, angen sylw pellach, ond mae modd mynd drwy’r pentref ac ail-ymuno efo’r llwybr yn safle’r hen orsaf.
Gobeithio’n wir y bydd defnydd helaeth yn cael ei wneud o’r llwybr, gan ein bod ni fel cyngor yn teimlo’n falch iawn o’r gwaith. Mae’r prosiect wedi cymryd blynyddoedd lawer i’w gwblhau, ond mae wedi bod ei werth o.







