Clerc y Cyngor sydd yn cyflawni’r holl ddyletswyddau gweinyddol am y fynwent ac mae’n gofalu am y cofnodion statudol.
Gellir gweld y cofnodion ond drwy drefniant o flaen llaw ar daliad yn unol â ffioedd y Cyngor.
Bydd ffi ychwanegol am ddarparu copïau.
Mae gan y Cyngor yr hawl i adolygu’r rheolau a’r ffioedd fel y bo’r angen.
Gweithredir rheolaeth y Mynwentydd yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, ac yn benodol Gorchymyn Mynwentydd Awdurdodau Lleol 1977, yn ogystal ag unrhyw orchymyn a ddarperir gan y Cynulliad i Gymru.